Hoffech chi cyfle i fwynhau'r Eisteddfod am ddim ac helpu elusen ryngwladol?
Mae WaterAid wedi cael cyfle gwych i godi proffil yng Nghymru trwy trefnu stondin yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, sydd lenni yn Llandw, ger y Bontfaen (map islaw).
Ein grŵp ni o gefnogwyr WaterAid fydd yn trefnu'r stondin, ac mae eisiau gwirfoddolwyr arnom ni! Mae'r Eisteddfod ar y 4-11eg Awst, a fydd angen pobl sy'n gallu siarad Cymraeg i ateb cwestiynnau or cyhoedd ynglŷn â WaterAid ac ein grŵp ni.
Gallwch ddarllen fwy am waith WaterAid yma, ac am ein grŵp cefnowgyr yma.
Ar hyn o bryd, dim ond angen enwau pobl gyda diddordeb yn helpu ni ar rhai or dyddiadau, bydd fwy o fanylion da' ni yn agosach i fis Awst. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gwybod llawer am WaterAid ar hun o bryd- dyma gyfle i chi ddysgu!
Felly os oes diddordeb da' chi i fwynhau awyrgylch yr Eisteddfod a chynrychioli elusen ryngwladol cysylltwch â ni.
Anfonwch e-bost i wateraidcardiff@gmail.com, neu drydar i'r cyfrif islaw. Fydda’n help os allwch adael ni wybod sawl a pha ddiwrnodau allwch chi fynychu hefyd.
Tweet to @_danphillips
Lleoliad yr Eisteddfod
View Larger Map
No comments:
Post a Comment